Trosedd a Chosb

Pa gofnodion allaf ddod o hyd iddynt yn Archifau Sir Ddinbych?

Cofnodion Llysoedd Chwarter

Roedd Llysoedd Chwarter yn Sir Ddinbych yn cael eu cynnal bedair gwaith y flwyddyn, ac roedd Ynadon Heddwch y sir yn eu mynychu. Dechreuodd y Llysoedd Chwarter yng Nghymru ar ôl y Deddfau Uno, 1536-1543. Cynhaliwyd llysoedd bob chwarter yn yr wythnosau’n dilyn gwleddoedd Ystwyll (6 Ionawr), y Pasg, Trawsnewid Sant Tomos y Merthyr (7 Gorffennaf), a Gŵyl Fihangel (29 Medi).

Roedd y Llysoedd Chwarter yn gwrando ar ystod eang o achosion gan gynnwys byrgleriaeth, ymosod, meddwdod, potsio, cardota, terfysg, torri pren yn anghyfreithlon, a llechfeddiant.  Roedd y math o gosbau gan yr ynadon yn cynnwys dirwyon, fflangellu, carcharu a chludiant.  Roedd y Llys hefyd yn gwrando ar anghydfodau rhwng unigolion, megis peidio â thalu dyledion, ac roedd yn gyfrifol am weinyddu Deddfau’r Tlodion. Roedd Llys y Sesiwn Fawr yng Nghymru yn ymdrin â throseddau mwy difrifol rhwng 1542 a 1830.

Parhaodd rôl farnwrol y Llysoedd nes eu diddymu yn 1971. Mae cofnodion yn cynnwys rholiau llysoedd, llyfrau cofnodion, llyfrau gorchmynion, deponiadau a ffeiliau sesiwn.

Mae rhagor o fanylion am gofnodion penodol ar gael ar y dudalen Llysoedd Chwarter.

Gallwch weld y rhestr lawn o gofnodion Llysoedd Chwarter a gedwir yn Archifau Sir Ddinbych yma.

Sesiynau Bach (yn ddiweddarach Llysoedd Ynadon)

Dechreuodd Sesiynau Bach ar ddechrau’r 18fed ganrif fel cyfarfodydd ychwanegol i leihau’r baich ar Ynadon Heddwch yn y Llysoedd Chwarter.  Yr arfer oedd isrannu’r sir yn isadrannau daearyddol gyda phob ynad yn cael ei neilltuo i isadran benodol.  Roedd y Llysoedd yn cael eu cynnal ddwywaith y mis ym mhob isadran yn hytrach na’r Llysoedd Chwarter, a oedd yn cael eu cynnal bob tri mis.  Roedd y Sesiynau Bach yn ymdrin yn bennaf gyda mân achosion fel meddwdod, ymosodiadau, lladrad, tresmasu, twyll ac achosion ieuenctid, yn ogystal â thrwyddedu cwrw a mabwysiadu. Roedd yn ofynnol sicrhau presenoldeb dau Ynad Heddwch ond dim rheithgor.

Roedd Sir Ddinbych wedi’i rhannu yn wreiddiol i isadrannau Bromfield ac Iâl (yn ddiweddarach Bromfield), Waun Uchaf/Ceiriog, Bae Colwyn, Dinbych, Edeirnion, Isaled, Isdulas, Llangollen, Rhiwabon, Rhuthun, Uwchaled, Uwchdulas a Wrecsam. O tua 1941, cafodd Is-adran Waun Uchaf/ Ceiriog ei chyfuno ag Is-adran Llangollen.  Ar 1 Ebrill 1974 cafodd yr isadrannau eu had-drefnu i mewn i’r canlynol; Berwyn, Colwyn, Dyffryn Clwyd a Wrecsam Maelor.

Rydym yn cadw cofnodion ar gyfer y llysoedd canlynol-

Is-adrannau Sir Ddinbych (cyn 1974)

Is-adran Clwyd (ar ôl 1974)

Cofnodion Llys Sirol (Llysoedd Sifil)

Crëwyd llysoedd sirol, a oedd yn delio ag achosion sifil, o dan Ddeddf Llysoedd Sirol 1846. Roedd Cymru a Lloegr wedi eu rhannu’n ardaloedd, gyda grym i brynu tir i adeiladu llys. Diben y llysoedd oedd gwrando ar achosion sifil, ac roedd yn gwrando ar achosion yn bennaf yn ei gyfarfodydd misol. Roeddent yn delio ag achosion ar gyfer adennill dyledion bychan yn ymwneud â chontractau, ymddiriedolaethau, profiant ac eiddo. Crëwyd clercod i gadw nodiadau o holl drafodion y llys a holl ffioedd y llys.

Roedd Llysoedd yn Ninbych, Llanrwst, Rhuthun, a Wrecsam yn Sir Ddinbych, a Chorwen (Sir Feirionnydd).

Nid yw cofnodion cynharach yn ymwneud â llys Rhuthun a Wrecsam wedi eu trosglwyddo i Archifau Sir Ddinbych ac maent wedi eu colli yn ôl pob tebyg.

Rydym yn cadw cofnodion ar gyfer y Llysoedd Sirol canlynol-

Cofnodion yr Heddlu

Sefydlwyd Heddlu Sir Ddinbych tua 1849. Cafodd ei drefnu yn ddwy isadran, Is-adran A (Wrecsam), ac Is-adran B (Dinbych); roedd isadrannau yn cadw cofnodion gan gynnwys cofrestrau troseddau, llyfrau gwŷs, cofrestrau o daliadau, llyfrau damweiniau a llyfrau ymweliadau. Ar ddiwedd y 19eg ganrif, roedd pencadlys yr heddlu yn Wrecsam. Yn 1967, unodd Heddlu Sir Ddinbych gydag awdurdodau Heddlu Sir y Fflint a Gwynedd. Yn dilyn ad-drefnu llywodraeth leol ym 1974, ffurfiwyd Heddlu Gogledd Cymru.

Gallwch weld y rhestr lawn o gofnodion Heddlu Sir Ddinbych a gedwir yn Archifau Sir Ddinbych yma. [Nodwch nad yw’r rhestr hon wedi ei hychwanegu at y catalog electronig eto]

Cofnodion Carcharorion Carchar Rhuthun

Ychydig iawn o gofnodion sydd gennym yn ymwneud â charcharorion a gedwir yng Ngharchar Rhuthun. Yr unig gofnod sydd wedi goroesi am garcharorion yw cofrestr derbyn a rhyddhau ar gyfer carcharorion benywaidd (1825-1828). Fodd bynnag, mae cofnodion o weinyddiaeth y carchar gan gynnwys cynlluniau, adroddiadau, rheolau a rheoliadau yn y Cofnodion Llysoedd Chwarter.

Gallwch chwilio cofnodion cyfrifiad gyfer Cymru a Lloegr o 1841-1911 ar-lein. Os byddwch yn dod o hyd i garchar yn y cyfrifiad, bydd yn rhestru enwau’r carcharorion a oedd yn bresennol ar yr adeg y cymerwyd y cyfrifiad.

Cofnodion Y Crwner

Cafodd swyddfa’r crwner ei chreu yn 1194 pan mai prif ddyletswydd y crwner oedd amddiffyn budd ariannol y goron. O 1752-1860, roedd yn ofynnol i grwneriaid ffeilio’u cwest yn llys chwarter a bydd rhai rholiau llysoedd yn cynnwys tystiolaeth o hyn.  Mae rôl y crwner wedi esblygu dros amser ac mae bellach yn ymwneud yn bennaf ag achosion o farwolaeth sydyn neu amheus.

Rydym yn cadw’r cofnodion crwner canlynol-

  • Gorllewin Sir Ddinbych (1938-1977)
  • Dwyrain Sir Ddinbych (1843, 1907-1968)

Gallwch gael gwybod mwy am ba wybodaeth y gall cofnod crwner ei chynnwys yma.

I gael mynediad i gofnod crwner â dyddiad o fewn y 75 mlynedd diwethaf, rhaid i chi wneud cais i’r crwner. Gallwch ddod o hyd i’r cyswllt ar gyfer crwner Sir Ddinbych yma.

Ym mha iaith oedd y cofnodion yn cael eu hysgrifennu?

Mae’r cofnodion hyn yn Saesneg. Mae’n bolisi gennym i gatalogio cofnodion yn yr iaith y cawsant eu hysgrifennu yn wreiddiol.

Sut allaf gael gafael ar y cofnodion hyn?

Nid oes delweddau digidol o’r cofnodion hyn ar gael ar-lein.

Gallwch weld y cofnodion hyn yn ein hystafell chwilio. Archebu lle yn yr ystafell chwilio heddiw.

Mae cyfyngiadau mynediad ar gofnodion llys oherwydd gwybodaeth bersonol a sensitif sydd ynddynt. Gweler ein tudalen mynediad am fanylion pellach.

Pa gofnodion allaf weld mewn archifau a sefydliadau eraill?

Yr Archifau Seneddol, Llundain

Cysylltwch â’r Archifau Seneddol ar gyfer cofnodion o Dŷ’r Arglwyddi, sef y llys apêl ar gyfer achosion troseddol yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Mae’r archif yn cadw cofnodion helaeth yn ymwneud â chreu a gweithredu’r gyfraith, a phapurau nifer o Aelodau Seneddol a ffigurau gwleidyddol.

Yr Archifau Cenedlaethol, Kew

Mae’r Archifau Cenedlaethol yn cadw cofnodion o’r Brawdlys. Gallwch weld eu canllawiau ymchwil yma.

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Roedd Llysoedd y Sesiwn Fawr (tebyg i’r Brawdlysoedd yn Lloegr) ar gyfer achosion barnwrol a sifil mwy difrifol yn cael eu cynnal hefyd.  Roedd y rhain yn unigryw i Gymru a dechreuasant yn 1542. Cawsant eu diddymu pan gafodd y system Brawdlysoedd ei rhoi yn ei lle yn 1830. Mae’r cofnodion sydd wedi goroesi o Lysoedd y Sesiwn Fawr yn cael eu cadw yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth.