Tlodi a’r Wyrcws

Tlodi a’r Wyrcws

Cyn Deddf Diwygio Cyfraith y Tlodion 1834, y plwyf oedd yn gyfrifol am gymorth i’r tlodion. Ar ôl Deddf 1834, disodlwyd system cymorth plwyf “tu allan” gan system genedlaethol a oedd yn canolbwyntio ar y wyrcws a “chymorth dan do”. Cyn 1834, roedd Deddf Gilbert 1782 yn galluogi i blwyfi yng Nghymru a Lloegr sefydlu wyrcws ar gyfer pobl ifanc, yr henoed, a phobl fregus. Ni sefydlwyd yr un wyrcws yn Sir Ddinbych yn dilyn y ddeddf hon, ond roedd dau wyrcws yn Wrecsam a Llansilin yn 1777 er nad oes cofnodion wedi goroesi o’r un ohonynt.

Pa gofnodion alla i ddod o hyd iddynt yn Archifau Sir Ddinbych?

Cofnodion plwyf (cyn 1834)

Archifau Sir Ddinbych yw’r man adneuo statudol ar gyfer cofnodion yr Eglwys yng Nghymru. Yn aml mae cofnodion y plwyf yn cynnwys cofnodion yn ymwneud â chymorth i’r tlodion a weinyddwyd gan y rhai a oruchwyliai’r tlodion.

Mae cofnodion goruchwylwyr yn cynnwys llyfrau treth, cyfrifon ac asesiadau, tystysgrifau setliad, bondiau bastardiaeth a chofnodion prentisiaethau. Nid oes cofnodion goruchwylwyr wedi goroesi ar gyfer pob plwyf yn y sir, a hyd yn oed os ydyn nhw ar gael, mae’n bosibl nad ydynt yn gynhwysfawr. Mae’r cofnodion goruchwylwyr sydd wedi goroesi yn arbennig o dda ar gyfer plwyfi’r Waun, Clocaenog, Henllan, Llandyrnog, Llangollen, Llanynys, Rhiwabon a Wrecsam.

Roedd cymorth plwyf yn cynnwys cymorth ariannol neu gymorth mewn da  a allai gynnwys dillad, bwyd neu danwydd.

Mae cofnodion y plwyf hefyd yn cynnwys cofnodion yn ymwneud ag elusennau eglwysi a dinesig ac elusendai.

Gallwch chwilio am blwyf unigol drwy ddefnyddio’r catalog ar-lein ar frig y dudalen hon.

Cofnodion Wyrcws / Undeb (post 1834)

Ar ôl Deddf Diwygio Cyfraith y Tlodion, sefydlwyd tair undeb – Llanrwst, Rhuthun a Wrecsam yn 1837  a phenodwyd Bwrdd Gwarcheidwaid i’w gweinyddu. Roedd nifer o blwyfi Sir Ddinbych yn rhan o unedau y tu allan i’r sir – Conwy, Llanelwy, Corwen a Llanfyllin.

Yn aml mae cofnodion undeb yn cynnwys cofnodion y Bwrdd Gwarcheidwaid, llyfrau treth a chofnodion ariannol.

Mae Archifau Sir Ddinbych yn dal cofnodion yr undebau canlynol –

  • Llanrwst
  • Rhuthun (ychydig iawn o gofnodion sydd wedi goroesi)
  • Wrecsam
  • Conwy (Casgliad bach. Prif gasgliad yn Archifau Conwy)
  • Corwen (llyfr treth ar gyfer Llanfihangel Glyn Myfyr, 1926 yn unig)
  • Llanelwy (Casgliad bach. Prif gasgliad yn Archifdy Sir y Fflint)

Yr unig gasgliad a gedwir sy’n cynnwys cofnodion wyrcws yw casgliad Undeb Wrecsam.

Y cofnodion mwyaf gwerthfawr i ymchwilwyr sy’n disgwyl cael hyd i gofnodion pobl a gafodd eu derbyn i’r wyrcws yw cofnodion manwl yn cynnwys cofrestri derbyn a rhyddhau, cofrestri cyd-breswylwyr a chofrestri genedigaethau a marwolaethau. Mae casgliad Undeb Wrecsam hefyd yn cynnwys sampl bach o bapurau achos teuluoedd.

Cafodd nifer o ddyletswyddau nad oedd yn gysylltiedig â chyfraith y tlodion eu gosod ar warcheidwaid megis glanweithdra a phresenoldeb yn yr ysgol. Trosglwyddwyd dyletswyddau treth i gynghorau dosbarth o dan Ddeddf Trethu a Phrisio 1925.

Cofnodion Cymorth Cyhoeddus

O dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1929, diddymwyd yr undebau a throsglwyddwyd eu swyddogaethau i’r Cyngor Sir a dilëwyd y system gyfan o weinyddu cyfraith y tlodion o dan gyfres o Ddeddfau rhwng 1946 a 1948. Dyna hefyd pryd y trosglwyddwyd dyletswyddau meddygol i’r Weinyddiaeth Iechyd, tra parhaodd awdurdodau lleol yn gyfrifol am ofal plant a’r henoed. Gellir gweld cofnodion yr Adran Cymorth Cyhoeddus yng nghofnodion y Cyngor Sir.

Ar ôl hyn, daeth sawl wyrcws yn ysbyty, felly mae’n bosibl bod gorgyffwrdd rhwng swyddogaethau’r wyrcws a’r ysbyty fel sefydliadau, ac yn eu cofnodion. Mae hyn yn wir am Wyrcws Wrecsam a ddaeth yn Sefydliad Cymorth Cyhoeddus Plas Maelor yn 1930 ac yn ddiweddarach yn rhan o Ysbyty Maelor, Wrecsam.

Cofnodion Cynghorau Plwyf

Sefydlwyd cynghorau plwyf gan Ddeddf Llywodraeth Leol 1894. Mae cofnodion cynghorau plwyf hefyd yn gallu cynnwys gwybodaeth am elusennau lleol a chyfraith y tlodion. Disodlwyd cynghorau plwyf gan gynghorau cymuned yn sgil ad-drefnu llywodraeth leol yn 1974.

Gallwch chwilio am gynghorau plwyf unigol drwy ddefnyddio’r catalog ar-lein ar frig y dudalen hon.

Cofnodion y Comisiwn Elusennau

Sefydlwyd y Comisiwn Elusennau yn 1853, i fonitro archifau elusennau yng Nghymru a Lloegr ar ran y llywodraeth. Mae hefyd yn derbyn gwybodaeth a chyfrifon gan ymddiriedolwyr yr elusennau hyn. Mae’r papurau hyn yn delio ag elusennau plwyfi yn Sir Ddinbych. Mae cofnodion y comisiwn elusennau yn cynnwys datganiadau o’r cyfrifon plwyf yn unig rhwng 1899 a 1954.

Ym mha iaith yr ysgrifennwyd y cofnodion?

Ysgrifennwyd mwyafrif y cofnodion hyn yn Saesneg ac eithrio cofnodion rhai Cynghorau Plwyf sydd yn Gymraeg. Mae cofnodion cynnar rhai plwyfi wedi eu hysgrifennu yn Lladin. Ein polisi yw catalogio cofnodion yn yr iaith yr ysgrifennwyd nhw’n wreiddiol.

Sut alla i gyrchu’r cofnodion hyn?

Gallwch weld y cofnodion hyn yn ein hystafell chwilio. Archebwch le yn yr ystafell chwilio heddiw

Pa gofnodion alla i ddod o hyd iddynt mewn archifau a sefydliadau eraill?

Archifdy Sir y Fflint

Archifdy Sir y Fflint sy’n dal cofnodion wyrcws ar gyfer Undeb Llanelwy. Roedd Undeb Llanelwy’n cynnwys ardaloedd yn Sir Ddinbych, gan gynnwys Abergele, Betws yn Rhos, Dinbych, Henllan, Llanddulas, Llanfair Talhaearn, Llanefydd, Llansannan a San Siôr.

Gwasanaeth Archifau Conwy

Gwasanaeth Archifau Conwy sy’n dal cofnodion Undeb Conwy a oedd yn cynnwys plwyfi Llansanffraid Glan Conwy, Llaneilian-yn-rhos a Llandrillo-yn-rhos.

Archifdy Gwynedd

Mae Archifdy Gwynedd (Dolgellau) yn dal cofnodion Undeb Corwen  a oedd yn cynnwys Bryneglwys, Cerrigydrudion, Glyntraean, Llantysilio, Llangollen, Llansanffraid Glyn Ceiriog, Llangwm a Llanfihangel Glyn Myfyr.

Yr Archifau Gwladol

Roedd Undebau’n adrodd i’r Comisiwn Cyfraith y Tlodion newydd a grëwyd, yn ddiweddarach i Fwrdd Cyfraith y Tlodion, ac yn ddiweddarach wedyn i Adran Cyfraith y Tlodion Bwrdd Llywodraeth Leol, oll wedi eu lleoli yn Llundain. Mae cofnodion Comisiwn Cyfraith y Tlodion, Bwrdd Cyfraith y Tlodion a Bwrdd Llywodraeth Leol yn yr Archifau Gwladol, yn adran y Weinyddiaeth Iechyd.