Pleidleisio a chofrestri etholiadol

Pleidleisio a chofrestri etholiadol

Pa gofnodion alla i ddod o hyd iddynt yn Archifau Sir Ddinbych?

Cofrestri etholiadol neu restrau etholwyr yw rhestrau o enwau pobl sydd â’r hawl i bleidleisio. Mae Archifau Sir Ddinbych yn dal cofrestri rhwng 1832 a 2014. Rhennir y rhain yn gofrestri cyn 1974 ac ar ôl 1974.

Wrth chwilio am rywun ar gofrestr etholiadol, cewch eu henw llawn, eu cyfeiriad, a’r eiddo lle maent yn gymwys i bleidleisio (nid yw hwn bob amser yr un fath â’u cyfeiriad). Nid oes mynegai enwau gyda chofrestri etholiadol, felly mae’n hollbwysig gwybod stryd/ardal bleidleisio’r sawl yr ydych yn chwilio amdano neu amdani.

Cofrestri etholiadol cyn-1974

Ehangwyd etholfraint y sir i gynnwys dynion 21 oed neu hŷn a oedd yn berchen ar eiddo copi-ddaliad hyd at werth o £10 y flwyddyn, lesddeiliaid o £50, lesddeiliaid hir o £10, yn ogystal â rhyd-ddeiliaid o 40s.0d. Ehangwyd yr etholfraint ymhellach gan Ddeddfau Diwygio 1867 a 1884. Yn 1918, rhoddwyd yr hawl i ferched bleidleisio ar yr amod eu bod yn talu trethi neu’n briod â threthdalwr. Ni chafwyd yr un hawl i ferched a dynion dros 21 oed bleidleisio tan Ddeddf Etholfreinio Gyfartal 1928.

Mae cofnodion y Llysoedd Chwarter yn cynnwys rhestrau etholiadol a chofrestri rhwng 1832 a 1974.

Mae’r rhestrau a’r cofrestri’n darparu enw’r pleidleisiwr, ei gyfeiriad, natur ei eiddo, cymhwyster i bleidleisio a lleoliad yr eiddo.

Mae ‘rhestrau’ neu ‘fwndeli’ etholiadol, yn hytrach na ‘chofrestr’ yn gallu cyfeirio at nifer o fathau o ddogfennau:

  • Cofnodion plwyf (1833-60). Rhestrau yw’r rhain o hawlwyr a anfonwyd gan y goruchwyliwr plwyf at y clerc heddwch i’w dwyn i sylw’r bargyfreithiwr. Weithiau mae’r rhain yn cynnwys gwybodaeth ychwanegol: galwedigaethau, addasiadau o ran preswylio ac os yw’r pleidleisiwr wedi marw neu adael y plwyf.
  • Drafftiau o’r cofrestri a argraffwyd, fel arfer yn seiliedig ar gofrestr y flwyddyn flaenorol gyda newidiadau
  • Copïau heb eu rhwymo o’r gofrestr a argraffwyd.

Gall rhestrau fod yn anghyflawn mewn tair ffordd:

  • os nad yw manylion plwyfi penodol wedi goroesi (er enghraifft mae nifer o gofrestri anghyflawn yn y cyfnod rhwng y ddau ryfel (1918-1939)
  • os na chafodd y gofrestr erioed ei llunio (dyma’r achos ar gyfer 1916-17 yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf a rhwng 1940-1945 yn ystod yr Ail Ryfel Byd)
  • os yw rhestrau etholwyr ‘B’ ac ‘C’ yn unig wedi goroesi, yn cynnwys enwau etholwyr cymwys newydd ac etholwyr nad ydyn nhw bellach yn gymwys.

O 1832, Yn Sir Ddinbych etholwyd 2 aelod seneddol, un ar gyfer yr etholaeth sirol a’r ail ar gyfer etholaeth Bwrdeistrefi Dinbych. Yn sgil Deddf Ailddosbarthu Seddau (1885) rhannwyd Sir Ddinbych yn 3 etholaeth:

  • Gorllewinol (sydd hefyd yn cael ei hadnabod fel Dinbych)
  • Dwyreiniol (sydd hefyd yn cael ei hadnabod fel Wrecsam)
  • Etholaeth Bwrdeistrefi Dinbych (bwrdeistrefi Dinbych, Holt, Rhuthun a Wrecsam)

Unwyd etholaeth Bwrdeistrefi Dinbych â’r ddwy etholaeth sirol yn  1918.

Mae gwybodaeth am blwyfi a threflannau etholaethol rhwng 1832 a 1871 yma. [copi pdf i’w greu]

Cofrestri etholiadol ar ôl 1974

Ers 1974, lluniwyd cofrestri etholiadol gan awdurdodau lleol. Rhennir y cofrestri’n unedau, sef ‘Rhanbarthau Pleidleisio’ sy’n cael eu cyfuno i ffurfio etholaethau seneddol. Trefnir cofrestri yn ôl rhanbarth etholiadol (mae’r rhain yn amrywio dros amser) sy’n ei gwneud yn anodd chwilio yn ôl enw, os na wyddoch lle oedd yr unigolyn yn byw.

Mae cofrestri ar ôl 1974 yn cynnwys tair cofrestr y flwyddyn yn cynnwys Bwrdeistrefi Colwyn, Glyndŵr a Wrecsam o Gyngor Sir Clwyd.

Mae cofrestri ôl-1996 yn cynnwys ardal Sir Ddinbych ‘Newydd’.

O ganlyniad i reoliadau newydd, lluniwyd dwy fersiwn o’r gofrestr etholiadol ers 2003:

  • Mae fersiwn lawn y gofrestr yn cynnwys enwau’r holl bleidleiswyr ac fe’i defnyddir yn bennaf i gefnogi’r broses etholiadol. Mae mynediad cyhoeddus ati’n cael ei reoli’n llym a chaniateir i’r data gael ei ddefnyddio’n unig i bwrpas ymchwil
  • Mae’r gofrestr agored, sy’n cael ei hadnabod hefyd fel y gofrestr olygedig, ar gael i’w gwerthu i bwrpas masnachol ar gyfer marchnata uniongyrchol, hysbysebu ayb. Nid yw’n cynnwys enwau’r etholwyr sydd wedi arfer eu hawl i optio allan i ddiogelu eu preifatrwydd.

Mae Archifau Sir Ddinbych yn dal y cofrestri fersiwn lawn yn unig. Mae mynediad cyhoeddus at gofrestri o fewn y 10 mlynedd diwethaf yn cael ei reoli’n llym a chaniateir i’r data gael ei ddefnyddio’n unig i bwrpas ymchwil.

Cofrestri coll

Ni chyhoeddwyd cofrestri yn ystod blynyddoedd olaf y Rhyfel Byd Cyntaf (1916–1917) na’r Ail Ryfel Byd (1940–1944).

Rhestrau pleidleiswyr absennol

Mae rhestrau pleidleiswyr absennol yn rhoi enwau milwyr a oedd yn absennol (h.y. yn y lluoedd arfog) ar adeg pleidleisio: cyfeiriad eu cartref; disgrifiad o’u gwasanaeth; llong/llu, rhif, rheng a safle. Mae rhai o’r cofrestri etholiadol hefyd yn cynnwys rhestrau pleidleiswyr absennol. Mae’r rhain yn cynnwys :

  • QSD/DK/2/255- Rhanbarth Dinbych, 1920
  • QSD/DK/2/256- Rhanbarth Wrecsam, 1920
  • QSD/DK/2/270- Gorllewin Sir Ddinbych, 1929.
  • QSD/DK/2/271- Dwyrain Sir Ddinbych, 1929.

Cofrestr etholiadol plwyfi

Yn aml mae cofnodion plwyfi yn cynnwys cofrestri etholiadol y plwyf. Cofrestri etholiadol y plwyf yw rhestrau o aelodau eglwys benodol. Mae’n hyn yn golygu bod plwyfolion yn gymwys i bleidleisio a dal swydd yn yr Eglwys yng Nghymru.

Cofnodion Bwrdeistrefol

Mae papurau etholiadol Bwrdeistref Dinbych yng nghofnodion Bwrdeistref Dinbych (BD/A/203-305)

Mae cofrestri etholiadol ar gyfer Cyngor Dosbarth Tref Bae Colwyn rhwng 1928 a 1934 i’w gweld yng nghofnodion Cyngor Dosbarth Bae Colwyn (UDD/A/1/229-233)

Mae cofrestri etholiadol ar gyfer Bwrdeistref Bae Colwyn rhwng 1935 a 1937 i’w gweld yng nghofnodion Bwrdeistref Bae Colwyn (BD/D/133-134).

Ym mha iaith yr ysgrifennwyd y cofnodion?

Mae’r cofnodion hyn yn Saesneg. Ein polisi yw catalogio cofnodion yn yr iaith yr ysgrifennwyd nhw’n wreiddiol.

Sut alla i gyrchu’r cofnodion hyn?

Nid oes unrhyw ddelweddau digidol o’r cofnodion hyn ar gael ar-lein. Fodd bynnag, mae’r Llyfrgell Brydeinig yn darparu mynediad at rai cofrestri o Gymru a Lloegr drwy danysgrifio’n llawn i Ancestry.

Gallwch weld cofrestri etholiadol yn ein hystafell chwilio. Archebwch le yn yr ystafell chwilio

Mae mynediad at gofrestri etholiadol yn amodol ar gyfyngiad o 10 mlynedd ar ôl eu cyhoeddi, er mwyn cydymffurfio â deddfwriaeth Cynrychioli Pobl a Diogelu Data. Caniateir mynediad yn unig yn yr ystafell chwilio o dan oruchwyliaeth staff. Yn ystod mynediad dan oruchwyliaeth caniateir nodiadau wedi eu hysgrifennu â llaw’n unig. Ni ddarperir unrhyw gopïau a gofynnir i ymchwilwyr arwyddo ffurflen datganiad diogelu data wrth gyrraedd.

Pa gofnodion alla i ddod o hyd iddynt mewn archifau a sefydliadau eraill?

Y Llyfrgell Brydeinig

Mae’r Llyfrgell Brydeinig yn cadw set gyflawn o gofrestri etholiadol ar gyfer Cymru a Lloegr o 1947 ymlaen.