Llysoedd Chwarter

Beth oedd y Llysoedd Chwarter?

Dechreuodd y Llysoedd Chwarter yng Nghymru ar ôl y Deddfau Uno, 1536-1543. Cynhaliwyd llysoedd bob chwarter yn yr wythnosau’n dilyn gwleddoedd Ystwyll (6ed Ionawr), y Pasg, Trawsnewid Sant Tomos y Merthyr (7 Gorffennaf), a Gŵyl Fihangel (29 Medi). Roedd Ynadon Heddwch ar gyfer y Sir yn mynychu’r llysoedd.

Roedd y Llysoedd Chwarter yn chwarae rhan bwysig yng ngweinyddiaeth leol Sir Ddinbych tan ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, pan gafodd llawer o’i swyddogaethau gweinyddol eu trosglwyddo i’r Cyngor Sir (a ffurfiwyd dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1888). Fodd bynnag, gwnaeth rôl farnwrol y Llysoedd barhau nes eu diddymu yn 1971.

Mae cofnodion Llysoedd Chwarter Sir Ddinbych wedi goroesi mewn swm mawr o 1541, gyda’r rhôl llys cynharaf sydd wedi goroesi yn dyddio o 1706. Dyma rai o’r cofnodion llysoedd chwarter cynharaf yng Nghymru.

Roedd y Llysoedd Chwarter yn gwrando ar ystod eang o achosion gan gynnwys byrgleriaeth, ymosod, meddwdod, potsio, cardota, terfysg, torri pren yn anghyfreithlon, a llechfeddiant.  Roedd y math o gosbau gan yr ynadon yn cynnwys dirwyon, fflangellu, carcharu ac alltudiaeth.  Roedd y Llys hefyd yn gwrando ar anghydfodau rhwng unigolion, megis peidio â thalu dyledion, ac roedd yn gyfrifol am weinyddu Deddfau’r Tlodion. Ymdriniwyd â throseddau mwy difrifol gan Lys y Sesiwn Fawr yng Nghymru rhwng 1542 a 1830.

Roedd nifer o faterion gweinyddol yn cael eu goruchwylio gan y llysoedd, gan gynnwys trwyddedu tafarnau, pennu lefel cyflog a rheoli cofrestru elusennau a thai cwrdd anghydffurfiol. Yn ogystal, roedd y Llys yn gyfrifol am oruchwylio cynnal a chadw pontydd, carchardai a thai cywiro.

Pa gofnodion Llysoedd Chwarter allaf ddod o hyd iddynt yn Archifau Sir Ddinbych?

Mae’r Llysoedd Chwarter yn cynnwys cofnodion llysoedd mewn sesiwn, gweinyddu adeiladau sir, pontydd a phriffyrdd, dyfarniadau cau tir a mapiau a chofrestrau etholiadol.

Gallwch weld y rhestr lawn o gofnodion Llysoedd Chwarter a gedwir yn Archifau Sir Ddinbych yn y catalog.

Ym mha iaith oedd y cofnodion yn cael eu hysgrifennu?

Mae’r Cofnodion Llysoedd Chwarter yn Saesneg. Mae’n bolisi gennym i gatalogio cofnodion yn yr iaith y cawsant eu hysgrifennu yn wreiddiol.

Sut allaf gael gafael ar y cofnodion hyn?

Yr unig ddelweddau digidol o’r cofnodion hyn sydd ar gael ar-lein yw’r Dyfarniadau a Chynlluniau Cau Tir.

Gallwch weld y cofnodion hyn yn ein hystafell chwilio. Archebu lle yn yr ystafell chwilio heddiw.

Sylwch: Mae rhai cofnodion Llysoedd Chwarter yn swmpus ac yn anodd eu defnyddio. Mae Rhestrau Llysoedd Chwarter yn arbennig yn cael eu cadw yn eu bwndeli gwreiddiol wedi rholio. Ar ddiwedd pob Llys, byddai’r holl bapurau a memrynau rhydd yn cael eu ffeilio gyda’i gilydd gan ddefnyddio twll yng nghornel chwith uchaf pob dogfen, wedi’u clymu gyda llinyn. Yna roedd y ffeiliau hyn yn cael eu rholio neu eu lapio mewn dalen fawr o femrwn, a dyna pam eu bod yn cael eu galw’n ‘Rholiau Llysoedd Chwarter’.  Felly, nid ydynt yr hawsaf o ddogfennau i’w defnyddio, gan eu bod wedi eu dal gyda’i gilydd gyda llinyn, ac nid yw bob amser yn bosibl darllen pob eitem yn llawn heb ddifrodi’r cofnodion bregus.

Mae cyfyngiadau mynediad ar rai o gofnodion Llysoedd Chwarter oherwydd y wybodaeth bersonol a sensitif yn y cofnodion llys. Gweler ein tudalen mynediad am fanylion pellach.

Pa gofnodion allaf weld mewn archifau a sefydliadau eraill?

Y Llyfrgell Brydeinig

Mae’r Llyfrgell Brydeinig yn Llundain yn cadw’r cofnodion canlynol sy’n ymwneud â Llysoedd Chwarter Sir Ddinbych

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Y rhan fwyaf o gofnodion y llys ar gyfer y cyfnod 1647-1690, gan gynnwys dau lyfr gorchmynion ac ymhlith Papurau Castell y Waun a gedwir yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae’r rhain yn cynnwys-

  • Llyfrau gorchmynion (1647-1662, 1662-1675)
  • Llyfr ditiad (1670-1690)
  • Llyfr cynsail (1661)
  • Rholiau’r Sesiynau (1643-1699)
  • Ystredau dirwyon ac amersiadau (1641-1697)
  • Cofrestrau a thystysgrifau Deddf y Prawf 1673-90.
  • Ffurflenni Treth Aelwyd (1662-1671)
  • Cyfrifon goruchwylwyr pontydd (1665-1678)
  • Cyfrifon a phapurau yn ymwneud â milwyr wedi’u hanafu (1662-7)

[Sylwer: roedd asiantau olynol yng Nghastell y Waun hefyd yn glercod heddwch yn ystod y cyfnod hwn]

Roedd Llysoedd y Sesiwn Fawr (tebyg i’r Brawdlysoedd yn Lloegr) ar gyfer achosion barnwrol a sifil mwy difrifol yn cael eu cynnal hefyd.  Roedd y rhain yn unigryw i Gymru a dechreuasant yn 1542. Cawsant eu diddymu pan gafodd y system Brawdlysoedd ei rhoi yn ei lle yn 1830. Mae’r cofnodion sydd wedi goroesi o Lysoedd y Sesiwn Fawr yn cael eu cadw yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth.