Hanes tŷ

Gall ymchwilio hanes eich tŷ fod yn hobi hudolus a gwerth chweil, ond gall gymryd cryn amser hefyd, weithiau’n ofer ac yn siomedig pan fydd trywydd yn oeri neu’n dod i ben.

Ble mae dechrau?

Y peth gorau i’w wneud bob amser ydi dechrau â’r hyn a wyddoch chi. Fel man cychwyn ffeindiwch gymaint ag a allwch chi am y tŷ a’r ardal o gwmpas.

Gofynnwch i gymdogion a ydyn nhw’n gwybod am unrhyw breswylwyr blaenorol, neu a ydyn nhw’n gwybod am unrhyw newidiadau yn enw’r eiddo. Cysylltwch â’r grŵp hanes lleol gan y gallan nhw roi rhywfaint o wybodaeth i chi o bosib. Edrychwch ar lyfrau hanes lleol gan ei bod yn bosib fod ymchwil blaenorol wedi ei wneud eisoes ar eich ardal, eich stryd neu eich eiddo. Fe allwch ffeindio llyfrau hanes lleol am Sir Ddinbych mewn unrhyw un o lyfrgelloedd y sir.

Chwiliwch y cofnodion cyfrifiad. Bydd cofnodion cyfrifiad yn eich helpu i gael syniad o bwy fu’n byw yn eich tŷ, ac weithiau ei ddefnydd blaenorol. Gallwch chwilio’r cyfrifiad am ddim, un ai ar-lein neu ar ficroffilm, yn ein swyddfa. Mae yna fwy ar ddefnyddio’r cofnodion cyfrifiad ar wefan yr Archifau Genedlaethol.

Edrychwch ar Gasgliad y Werin Cymru ar-lein. Gallwch ddefnyddio’r wefan hon am ddim i weld mapiau Arolwg Ordnans hanesyddol a delweddau digidol o lawer o archifau eraill yng Nghymru.

Pa fath o gofnodion fydd yn fwyaf defnyddiol i mi?

Yn archifau Sir Ddinbych gallwch gyrchu ystod eang o gofnodion hanesyddol a all eich helpu i olrhain hanes eich tŷ, yn cynnwys:

Gweithredoedd

Bydd gweithredoedd eiddo tŷ’n rhoi manylion yn aml o berchnogion blaenorol, a phryniant y tir. Mae’n bosib eu bod yn cael eu dal gan eich banc, cymdeithas adeiladu neu gyfreithiwr. Yn gyffredinol, ni fydd gweithredoedd hŷn y cael eu cadw gan sefydliadau fel hyn, oherwydd dan Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925, dim ond am 30 mlynedd y mae angen cadw gweithredoedd. Yn ffodus, mae llawer o weithredoedd hŷn wedi eu hadneuo mewn archifdai, o fewn casgliadau stadau a chyfreithwyr. Bydd y casgliadau hyn hefyd yn cynnwys manylion gwerthiant, sy’n aml yn cynnwys disgrifiadau ardderchog o eiddo, ynghyd â chynlluniau a ffotograffau.

Bydd angen i chi ymgynghori â’n mynegeion i weld a ydyn ni’n dal unrhyw weithredoedd neu fanylion gwerthiannau sy’n ymwneud â’ch eiddo chi.

Mapiau a dyfarniadau cau tir

Yn ystod hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg, fe rannwyd neu fe gaewyd caeau, gweirgloddiau a choetiroedd. Yn rhan o’r broses yma fe gynhyrchwyd dyfarniadau cau ysgrifenedig, gyda mapiau i gyd-fynd â nhw’n dangos ffiniau’r caeau a gaewyd, yn ogystal â llwybrau, draeniau a dyfrgyrsiau. Roedd y mapiau’n gyfyngedig fel rheol i’r ardal a oedd yn cael ei chau, felly ni fyddan nhw’n dangos yr eiddo o gwmpas, na gweddill y plwyf.

I gael manylion pellach ar gau tiroedd, ewch i wefan yr Archifau Genedlaethol.

Mapiau stadau

Byddai perchnogion stadau bonedd yn aml yn comisiynu cynlluniau o’u heiddo. Dydyn nhw ddim fel arfer yn cynnwys tir nad ydyn nhw’n berchen arno, ond mae’n werth gwirio ag aelod o’r staff i weld a oes yna fap ar gyfer y stad neu’r ardal yr ydych chi’n ei hymchwilio, gan mai dyma’n aml yw’r mapiau cynharaf sydd ar gael. Fodd bynnag, maen nhw’n amrywio’n fawr yn eu manylder a’u cywirdeb, ac ychydig iawn sy’n goroesi o’r cyfnod cyn 1750.

Cynlluniau o waith cyhoeddus

Mae cynlluniau gwaith cyhoeddus yn nodi adeiladu ffyrdd, camlesi a rheilffyrdd, ac fe fyddan nhw’n aml yn nodweddu eiddo yng nghyffiniau agosaf y gwaith adeiladu, yn dangos cynlluniau llawr, ffiniau a llwybrau mynediad. Weithiau fe fyddan nhw’n cynnwys cyfeirlyfr i fynd gyda nhw ac mae’n rhoi’r rhif ar y cynllun, disgrifiad byr ac enw’r perchennog a’r meddiannwr ar gyfer pob eiddo.

Cofnodion eraill: