Archebu dogfennau yn Archifau Sir Ddinbych

Canllaw i archebu dogfennau

Bydd y tudalennau hyn yn dweud y cwbl rydych ei angen wrthych er mwyn eich cynorthwyo i archebu dogfennau er mwyn eu gweld yn yr Archif.

Bydd archebu dogfennau yn newydd i lawer o ymchwilwyr sy’n defnyddio archifau ac felly rydym wedi datblygu’r tudalennau yma i wneud y broses yn haws.

Gallwch glicio ar unrhyw un o’r dolenni isod er mwyn dysgu mwy am bob agwedd o’r broses archebu ar-lein.    Rydym yn argymell eich bod yn cychwyn o’r dechrau ac yn gweithio eich ffordd drwyddo, ond gellir darllen pob adran ar ei phen ei hun.  Gallwch fynd yn syth i unrhyw adran drwy glicio ar y dolenni isod neu drwy ddewis y dolenni yn y ddewislen ochr.