Cymorth

Croeso i Dudalennau Cymorth Archifau Sir Ddinbych.

Mae’r tudalennau hyn yn darparu cymorth ar sut i fynd ati i ymchwilio, darganfod dogfennau gan ddefnyddio’n catalogau ac archebu dogfennau i edrych arnynt pan fyddwch yn dod i ymweld â’r Archif.

Efallai yr hoffech ddarllen mwy am ddefnyddio archif gan yr Archives Hub

Yn yr adran hon, cewch wybodaeth am chwilio’r catalogau (syml a manwl) a sut i archebu dogfen i’w gweld yn yr Archif.

Gallwch holi i gael copïau o eitemau wedi eu postio neu eu hanfon ar e-bost atoch.

Rydym yn  annog ein defnyddwyr ar-lein i gyd i ddod yn Ddarllenwyr yn Archifau Sir Ddinbych – cofrestrwch hyd yn oed os nad ydych yn bwriadu dod i ymweld â ni: bydd eich cyfrif Darllenydd yn ddefnyddiol ar gyfer rheoli eich casgliad rhestr ddymuniadau, ac i holi am gopïau a lawrlwythiadau digidol.